Crynodeb

Gall trafod meddyliau neu deimladau hunanladdol fod yn anodd ond mae’n bwysig bod yn agored ac yn uniongyrchol​.

Rydym yn gwybod na fydd siarad â rhywun am hunanladdiad yn achosi nac yn cynyddu meddyliau hunanladdol, nac yn gwneud i’r unigolyn weithredu arnynt. Gall ei helpu i deimlo’n llai ynysig ac ofnus​.

Mae dewis ein geiriau’n ofalus yn golygu mwy nag osgoi termau sy’n stigmateiddio. Gall yr iaith rydym yn ei defnyddio hefyd gael effaith gadarnhaol, sy’n golygu bod dewis y geiriau cywir yr un mor bwysig ag osgoi’r rhai anghywir​.

Byddwch yn obeithiol – gall pobl wella ac mae pobl yn gwella. Anogwch bobl i ofyn am help​.

Os hoffech ddysgu mwy nawr (dewisol): ​

Fideo rhyngweithiol ar-lein am ddim yw hwn sy’npara 5 – 20 munud ac sy’n dangos i chi sut y gallwchgefnogi rhywun drwy siarad am hunanladdiad​.