Mythiau ynghylch hunanladdiad
Mae llawer o gamddealltwriaeth ynghylch hunanladdiad sy’n gwneud pobl yn gyndyn i siarad am y peth am eu bod yn ofni y gallent waethygu’r sefyllfa.
Myth 1: mae gofyn yn uniongyrchol i rywun a yw’n meddwl am hunanladdiad yn ‘plannu’ y syniad yn ei ben
Ffaith: Nid oes tystiolaeth i ddangos bod gofyn i rywun a yw’n meddwl am hunanladdiad yn plannu’r syniad yn ei ben.
Mae gwaith ymchwil hyd yn oed wedi dangos NAD YW holi am hunanladdiad yn cynyddu meddyliau hunanladdol, yn wir, gall leihau meddyliau o’r fath a gwella iechyd meddwl.
Os ydych yn poeni am rywun, gallai siarad am hunanladdiad ei helpu i gael yr help sydd ei angen arno
Myth 2: nid yw’r rhai sy’n siarad am hunanladdiad yn wynebu risg o hunanladdiad
Ffaith: NID YW HYN YN WIR. Drwy siarad â rhywun, gall fod yn chwilio am help.
Mae’r myth hwn yn seiliedig ar y syniad os yw rhywun yn benderfynol o ladd ei hun, yna ni fydd yn dweud wrth unrhyw un ei fod yn meddwl am hunanladdiad.
Credir y bydd o leiaf pedwar o bob deg person sy’n marw drwy hunanladdiad wedi siarad â rhywun am ladd eu hunain cyn gwneud hynny.
Rhaid cymryd pob sgwrs am hunanladdiad o ddifrif.
Myth 3: ymgais i gael sylw yw ymddygiad hunanladdol
Ffaith: Mae hyn yn atgyfnerthu’r stigma annefnyddiol iawn ynghylch hunanladdiad a hunan-niwed nad oes lle iddo yn ein cymdeithas nac yn y maes iechyd a gofal.
Gall pobl feddwl os yw rhywun yn ystyried hunanladdiad o ddifrif, yna byddai’r unigolyn hwnnw yn gweithredu ar hynny. I unigolion sydd mewn poen neu drallod meddyliol neu emosiynol, mae hunan-niweidio neu ymgeisiau i ladd eu hunain yn aml yn ffyrdd o geisio rheoli neu gyfleu’r poen hwnnw, neu geisio help, felly mae ANGEN sylw arnynt.
Mae gwaith ymchwil wedi dangos y bydd 1 o bob 10 person ifanc wedi hunan-niweidio yn ystod y flwyddyn flaenorol. Rhaid cymryd pob gweithred hunan-niweidio o ddifrif
