Cyfathrebu’n uniongyrchol
Os nad oes ffactorau risg na bregusrwydd, nid yw hynny’n golygu nad oes unrhyw risg o hunanladdiad.Gall unigolyn feddwl am hunanladdiad hyd yn oed os nad yw’n perthyn i grŵp ‘risg uchel’, ac nid yw pawbsy’n perthyn i grŵp ‘risg uchel’ yn meddwl am hunanladdiad.
Gall meddyliau hunanladdol (a’r risg) amrywio dros gyfnod cymharol fyr*.
Mae’n bwysig cyfathrebu’n uniongyrchol â rhywun rydych yn poeni amdano os ydych yn credu ei fodyn meddwl am hunanladdiad. Y ffordd orau o wybod a yw person yn meddwl am hyn yw drwy ofyn ‘wyt ti’n meddwl am hunanladdiad’? Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n meddwl am hunanladdiad am gael help i aros yn fyw.
Os ydych yn poeni am eich meddyliau eich hun am hunanladdiad, siaradwch â rhywun rydych ynymddiried ynddo ac rydych yn gwybod a fydd yn gwrando arnoch.
Bydd yr adran nesaf yn eich helpu i feddwl am sut y gallwch siarad â phobl sy’n meddwl am hunanladdiad
Ffynhonnell: college-report-cr229-self-harm-and-suicide.pdf (rcpsych.ac.uk) 2020
