Cymorth wrth law Cymru

Mae’n bwysig iawn bod pobl yn cael y cymorth cywir os yw hunanladdiad wedi effeithio arnynt, ac efallai y bydd angen help arbenigol arnynt. Mae adnodd ar-lein dwyieithog ar gael sef ‘Cymorth wrth Law Cymru’ i bobl y gall hunanladdiad neu farwolaeth anesboniadwy arall fod wedi effeithio arnynt, gan gynnwys:

  • pobl sy’n agos i’r unigolyn a fu farw​
  • y rhai a oedd yn gofalu am yr unigolyn a fu farw a all fod wedyn yn cefnogi’r teulu a phobl eraill​
  • gweithwyr iechyd, addysg ac achub a gweithwyr proffesiynol eraill a all fod wedi cael eu hamlygu i’r farwolaeth ac sy’n teimlo’r effaith eu hunain​