Yr effaith ton (ripple effect)

Gall marwolaeth drwy hunanladdiad beri loes i lawer o bobl – teulu a ffrindiau’r unigolyn; ei gyfoedion yn yr ysgol, y coleg neu’r brifysgol; ei gydweithwyr; gweithwyr iechyd proffesiynol neu ofalwyr; a’r gymuned ehangach fel mannau ffydd, clybiau chwaraeon neu grwpiau celfyddydau perfformio.

Yn ôl amcangyfrifon, am bob person sy’n marw drwy hunanladdiad mae hyn yn cael effaith uniongyrchol ar 6 pherson a gall gael effaith anuniongyrchol ar hyd at 135 o bobl*. Gelwir hyn weithiau yn effaith ton (ripple effect).

Adnodd ar-lein yw First Hand, a gafodd ei ddatblygu yn Lloegr, i bobl sydd wedi gweld hunanladdiad rhywun nad ydynt yn ei adnabod.

* How Many People Are Exposed to Suicide? Not Six – PubMed (nih.gov)