Ymateb i hunan-niweidio ymhlith oedolion ifanc 16-25 oed

Ian Munton

Ian Munton yw Cyfarwyddwr Taith Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae Ian wedi gweithio mewn rolau yn amrywio o Gynghorydd Myfyrwyr i Gyfarwyddwr dros gyfnod o 20 mlynedd gyda rolau ym Mhrifysgol Swydd Stafford, Prifysgol Keele a Phrifysgol Sheffield cyn symud i Ganolbarth Cymru.

Mae Ian yn arwain nifer o wasanaethau gan gynnwys Lles Myfyrwyr, Hygyrchedd a Chynhwysiant, Gwrth-Aflonyddu a Thrais, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd a Gwasanaethau Llyfrgell. Yn ogystal, Ian yw arweinydd Diogelu a Prevent y Brifysgol ac mae’n gyfrifol am ystod o flaenoriaethau traws-sefydliadol sy’n ymwneud â thaith y myfyriwr.

Mae Ian yn Gyfarwyddwr Gweithredol ar gyfer AMOSSHE – Y Sefydliad Gwasanaethau Myfyrwyr ac mae wedi cyfrannu at waith y sector, yn enwedig mewn perthynas â Thrais Rhywiol a Chamymddwyn, Iechyd Meddwl a Throsglwyddo Myfyrwyr.

David Heald

David Heald yw Rheolwr Cenedlaethol Cymru ar gyfer Atal Hunanladdiad Ymhlith Pobl Ifanc PAPYRUS. Mae wedi gweithio ym maes gwaith ieuenctid ers dros ddeng mlynedd ar hugain, ar ôl dechrau ei yrfa mewn Addysg Bellach ac yna hyfforddi’r rheini y tu allan i’r ysgol. Ar ôl gweithio ym maes llesiant a gwirfoddoli ieuenctid, ymunodd David â PAPYRUS yn 2019 i ddatblygu gwaith cymunedol yr elusen yng Nghymru. Ers hynny mae wedi ehangu i bedair canolfan ar draws y wlad a thîm o staff Cymreig ymroddedig sy’n darparu cefnogaeth, gwybodaeth a hyfforddiant ar atal hunanladdiad trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae wedi arloesi yn y cyswllt rhwng y trydydd sector a phrifysgolion sydd wedi arwain at y cydweithio gyda phrifysgol Aberystwyth yn cael ei drafod yn y gweithdy heddiw.