RNLI: Gweithio mewn partneriaeth
Chris Cousens
Cefais fy magu yn Nhyddewi, yn mwynhau traethau gogledd Sir Benfro o oedran ifanc. Mae syrffio a’r môr wedi bod yn rhannau pwysig o fy mywyd ers hynny.
Yn 2015 ymunais â Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, mewn rôl yn ymwneud â’r cyfryngau a chyfathrebu i ddechrau ac ers 2018 rwyf wedi bod yn Arweinydd Diogelwch Dŵr yr elusen ar gyfer rhanbarth Cymru, Gorllewin ac Ynys Manaw. Rwy’n arwain tîm o staff a gwirfoddolwyr sy’n darparu gwaith atal boddi ac addysg ar draws y rhanbarth – o gyflwyno sgyrsiau diogelwch dŵr i blant mewn ysgol leol i weithio gyda’r llywodraeth ar strategaeth a pholisi cenedlaethol.
Yn ystod y degawd diwethaf, rwyf wedi gweld nifer yr achosion o hunanladdiad neu hunan-niweidio tybiedig ar yr arfordir a dyfrffyrdd mewndirol yng Nghymru yn cynyddu mewn sawl maes ac rwy’n awyddus i weithio gydag arbenigwyr i gyfrannu at atal a sicrhau bod timau’r RNLI yn cael y cymorth gorau yn y maes hwn.
Ers 2021 rwyf wedi cael y pleser o fod yn Gadeirydd Diogelwch Dŵr Cymru, sef cydweithrediad o tua 40 o sefydliadau sydd â gweledigaeth gyfunol o Gymru heb foddi.
Rwyf bellach yn byw y tu allan i’m Cymru annwyl – yng Nghaer – gyda fy ngwraig Sarah a’m plant ifanc, Elin a Charlie.