Deall y cysylltiad rhwng hunanladdiad a cham-drin domestig 

Chris Grey

DCI Chris Grey o Heddlu De Cymru ydw i a fi yw pennaeth Diogelu ar gyfer Uned Reoli Sylfaenol Morgannwg Ganol (Cwm Taf). Rwyf wedi bod yn blismon ers dros 20 mlynedd ac mae mwyafrif fy ngyrfa wedi bod naill ai mewn rolau ditectif neu ddiogelu. Rwy’n arweinydd dros yr heddlu ym maes strategol trais yn erbyn menywod a merched ac yn rheoli Hybiau ymchwilio i drais domestig. Yn ddiweddar rwyf wedi arwain ar waith yng Nghwm Taf i amlygu’r cysylltiadau rhwng trais Domestig a hunanladdiad.

Ann-Marie Curtis

Ymunais â Stori yn 2004 fel gweithiwr cymorth yn gweithio gyda chleientiaid sy’n profi cam-drin domestig.  Ers hynny rwyf wedi rheoli prosiectau ar gyfer amrywiaeth eang o anghenion cymorth ond i gyd yn gysylltiedig ag effaith profi cam-drin domestig.

Rwy’n angerddol am wneud gwahaniaeth i oroeswyr VAWDASV, mae pob un cyswllt sydd gennym yn gyfle i atal niwed difrifol, i ddarparu opsiynau neu i wrando a dilysu’r profiad. 

Rwyf wedi gweithio i Stori ers bron i 21 mlynedd, yn ystod y cyfnod hwnnw rwyf wedi gweithio gyda channoedd o oroeswyr. Mae pob Stori yn unigryw, fodd bynnag mae tebygrwydd efallai, rwy’n ceisio dod â’r profiad i’r ystafell hyfforddi gan ddod â llais y goroeswyr fel bod gan weithwyr proffesiynol ddealltwriaeth o gymhlethdodau’r ddeinameg.  Gwn fod tynnu sylw at arferion gorau yn golygu y gallwn wneud i bob ymyriad unigol gyfrif.