Cynllunio Diogelwch: beth a sut
Orla Adams
Mae Orla yn Ddeietegydd cofrestredig sydd â 25 mlynedd o brofiad yn y GIG ac mae’n rhannu ei hamser rhwng hyn a darparu hyfforddiant Cyfweld Ysgogiadol (MI) ar draws y DU i ddisgyblaethau amrywiol. Daeth Orla yn aelod o MINT (Rhwydwaith Hyfforddwyr Cyfweld Ysgogiadol) yn 2011 ac enillodd ardystiad MINT fel Hyfforddwr Cyfweld Ysgogiadol yn 2023. Bu’n gwasanaethu am bedair blynedd ar Bwyllgor Cynllunio Rhaglen MINT yn trefnu fforymau MINT rhyngwladol a rhithwir ac ar hyn o bryd mae’n gwasanaethu ar bwyllgor MINT y DU ac Iwerddon. Cwblhaodd Orla ei hyfforddiant yn MICA (Asesu Cymhwysedd Cyfweld Ysgogiadol) yn 2019 a chwblhaodd hyfforddiant hefyd mewn dysgu sut i ddefnyddio MITI (Adnodd Cywirdeb Cyfweld Ysgogiadol) 4.2.1 yn 2020. Mae hi’n gwirfoddoli i gefnogi aelodau mwy newydd o MINT trwy MINT+. Mae’n anrhydedd i Orla gyflwyno gweithdai MI ochr yn ochr â’r Athro Stephen Rollnick, cyd-sylfaenydd MI. Yn wreiddiol o Belfast, Gogledd Iwerddon, mae Orla yn byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr a’u dau fab. Mae hi wrth ei bodd yn rhedeg, pobi a dysgu sut i sglefrio iâ, ond nid yn llwyddiannus iawn!