Arolwg o Anghenion Dysgu a Datblygu
Cynhaliodd Rhaglen Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed arolwg o anghenion dysgu a datblygu yn ystod mis Mehefin a Gorffennaf 2023. Roedd yr arolwg wedi’i anelu at bobl ar draws pob sector yng Nghymru y mae eu gwaith yn dod â nhw i gysylltiad â phobl yr effeithir arnynt gan hunanladdiad a hunan-niwed, a phobl sy’n ymwneud â datblygu a rheoli gwasanaethau i ymateb i anghenion y rhai yr effeithir arnynt gan hunanladdiad a hunan-niwed.
Diben yr arolwg oedd nodi anghenion hyfforddi a datblygu ar draws sectorau a llywio datblygiad cynigion hyfforddi a dysgu yng Nghymru yn y dyfodol.
Crynodeb Ffeithlun
Gellir dod o hyd i’r adroddiad llawn ar y gwefan GIG Cymru Perfformiad a Gwella