Grantiau Bach SSHP

Gwahoddiad i gyflwyno ceisiadau am gyllid grantiau bach (hyd at £4,000) i gefnogi gweithgareddau lleol sy’n canolbwyntio ar atal hunanladdiad a hunan-niweidio

Mae Rhaglen Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn darparu grantiau bach i gefnogi gweithgarwch lleol sy’n canolbwyntio ac atal hunanladdiad a hunan-niweidio. 

Mae’r cyllid hwn ar gael ar gyfer prosiectau, ymyriadau neu raglenni sy’n bodoli eisoes neu sy’n cael eu datblygu; neu i gefnogi gweithgareddau newydd ar eu taith sydd â ffynonellau cyllid ychwanegol neu a gefnogir gan allu sefydliadol presennol.

Gall unrhyw asiantaeth gyflwyno cais am grant bach, o unrhyw sector.

Bydd y cyllid ar gael yn ystod 2026/27 (hyd at 31 Mawrth 2027) ac ni fydd yn gylchol.

Mae enghreifftiau o sut y gellid defnyddio cyllid yn cynnwys i) cyd-ddylunio  a chynhyrchu adnoddau neu ddeunyddiau i gefnogi llwybrau atgyfeirio lleol, llywio gwasanaethau, neu gyfeirio; ii) cyd-gynhyrchu cynigion hyfforddiant newydd neu bwrpasol ar gyfer grwpiau neu leoliadau penodol; iii) ; iii) digwyddiadau lleol i gefnogi rhwydweithiau presennol gyda her neu broblem benodol, neu i sefydlu rhwydwaith cefnogi newydd y gellir ei gynnal trwy adnoddau presennol ar ôl y grant; iv) gweithgareddau sy’n gwella ein dealltwriaeth ac yn cofnodi lleisiau’r rhai sydd wedi’u heffeithio’n anghymesur gan hunanladdiad a hunan-niweidio.

Y gweithgareddau na fyddant yn cael eu cefnogi yw hyfforddi staff corfforaethol, datblygu gwasanaethau newydd neu ddarparu gwasanaethau parhaus.

Ar gyfer 2026/27 byddem yn annog ceisiadau sy’n:

  • Cefnogi pobl neu brosesau i wella ein hymatebion i hunan-niweidio
  • Gallu diweddaru a mireinio rhannau o adnodd ar-lein Cymorth Wrth Law Cymru
  • Yn cefnogi mabwysiadu neu weithredu’r Datganiad Ansawdd Integredig ar gyfer Hunan-niweidio

Rhaid i bob gweithgaredd alinio’n glir â’r amcanion strategol cenedlaethol sydd wedi’u nodi yn y strategaeth 10 mlynedd newydd, Dealltwriaeth: strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio | LLYW.CYMRU, a chynnwys gwerthuso a monitro digonol i allu adrodd ar fanteision a chanlyniadau clir o’r gwaith.

Bydd panel aml-asiantaeth/proffesiynol yn cael ei sefydlu, a bydd yn cynnwys y rhai sydd â phrofiad o lygad y ffynnon, i arfarnu ceisiadau. Bydd y panel hwn yn agored i gynigion arloesol a chreadigol,  a chyflwyniadau a baratoir gan nifer o grwpiau neu asiantaethau sy’n cydweithio.

Bydd y cyfanswm cronfa ariannol ar gyfer y rhaglen grantiau bach yn cael ei phennu gan gostau eraill a ddaw yn sgil y rhaglen genedlaethol a’i hymrwymiadau i’r Cynllun Cyflawni Strategol tair blynedd 2025-28.

I gael cymorth wrth baratoi cais, gweler y ddogfen gwybodaeth ategol ac am gyngor pellach, cysylltwch â’ch arweinydd rhanbarthol: 


Gogledd Cymru: [email protected]

De-ddwyrain Cymru: [email protected]

Canolbarth a Gorllewin Cymru: [email protected]