Cyfres Gweminar 2025-2026

Os ydych chi wedi mynychu unrhyw weminarau yn y gyfres a gynhaliwyd gan SSHP Cymru, byddem yn gwerthfawrogi eich adborth drwy’r arolwg hwn

1. Risg Hunanladdiad Ymhlith Cyflawnwyr Cam-drin Domestig Risg Uchel

Cynhaliodd Rhaglen Cenedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio Cymru weminar 90 munud sy’n archwilio cyfraddau hunanladdiad ymhlith cyflawnwyr cam-drin domestig risg uchel. 

Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bryste, cyhoeddodd y Bartneriaeth Drive yr astudiaeth gyntaf o’i bath yn ddiweddar i archwilio’r mater iechyd a chymdeithasol cymhleth hwn. Dadansoddodd y sesiwn hon y canfyddiadau, gan agor trafodaeth ehangach am yr heriau a’r cyfleoedd ymarferol ar gyfer atal hunanladdiad yn y cyd-destun hwn.

Ymdriniodd y weminar ar-lein am ddim hon â’r canlynol: 

  • Mewnwelediadau allweddol o’r ymchwil i gyfraddau hunanladdiad ymhlith cyflawnwyr cam-drin domestig risg uchel 
  • Cymhlethdodau ymarfer wrth nodi ac ymateb i risg hunanladdiad 
  • Dulliau arferion gorau ar gyfer atal hunanladdiad 
2. Defnydd Diogel a Chefnogol o Gyfryngau Cymdeithasol yn dilyn Hunanladdiad

Bydd y sesiwn gyda Dr Jo Bell o Brifysgol Hull yn archwilio: 

  • Effeithiau niweidiol ac amddiffynnol defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn dilyn hunanladdiad 
  • Sut y gellir defnyddio cyfryngau cymdeithasol i reoli trawma, lleddfu galar a chyrraedd y rhai sydd angen cymorth 
  • Canllawiau ac argymhellion ar gyfer polisi ac ymarfer atal

Isod mae dolenni i adnoddau perthnasol sy’n ymwneud â phwnc y weminar:

Final-Policy-Report-Social-Media-and-Suicide.pdf

PASSrecommendationsJune-2023.pdf

PASS HUB | Prevention Around Social Media and Suicide

Preventing suicide: a resource for media professionals, update 2023

Samaritans’ Media Guidelines

3. Meddyliau ac ymddygiad hunanladdiad yn ddiweddarach mewn bywyd

Gweminar: meddyliau ac ymddygiad hunanladdol yn ddiweddarach mewn bywyd

Siaradwyr: Yr Athro Trish Hafford-Letchfield, Prifysgol Strathclyde a Siwan Sutton, Iechyd y Cyhoedd BIPBC

Mae’r weminar hwn yn cyflwyno gwybodaeth am:

  • Wella cydnabyddiaeth o feddyliau ac ymddygiad hunanladdol mewn pobl hŷn
  • Sut y gallwn wella’r ymateb a mynediad at gymorth yn seiliedig ar y dystiolaeth

a

Throsolwg o Adolygiad Cyflym gan Iechyd y Cyhoedd BIPBC – hunanladdiad a hunan-niweidio mewn oedolion hŷn: pa mor gyffredin y mae, ffactorau risg ac ymyriadau.

Gweminar Meddyliau ac ymddygiad hunanladdol yn ddiweddarach mewn bywyd



4. Deall Hunan-niwed mewn Plant a Phobl ifanc: Tystiolaeth ac Ymatebion Effeithiol

Sesiwn ymarferol a chraff yn canolbwyntio ar y dystiolaeth ddiweddaraf ar dueddiadau, canllawiau, a safbwyntiau sy’n seiliedig ar brofiad bywyd ar hunan-niweidio ymhlith plant a phobl ifanc.

Rhannodd Dr Amanda Marchant o’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad ac Ymchwil i Hunan-niweidio drosolwg o’r tueddiadau hunan-niweidio cyfredol yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddaw o waith ymchwil, gan helpu i amlygu’r heriau sy’n wynebu plant a phobl ifanc heddiw.

Dilynwyd hyn gan ddiweddariad byr ar ganllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru, Ymateb i faterion hunan-niweidio a meddyliau hunanladdol ymhlith pobl ifanc’.

Caeodd Si o Heads Above the Waves y sesiwn, gan dynnu’n uniongyrchol ar leisiau a dyfyniadau gan blant a phobl ifanc a bydd yn archwilio:

  • Yr hyn y mae pobl ifanc yn dymuno i oedolion ei ddeall am hunan-niweidio
  • Sut i ddechrau sgyrsiau cefnogol a thosturiol
  • Ymatebion defnyddiol o’u cymharu ag ymatebion di-fudd
  • Y fframwaith “Helpwyd / Clywyd / Daliwyd” ar gyfer ymateb i ofid
  • Cyfeirio at gymorth ac adnoddau pellach

Nod y weminar hon yw arfogi oedolion, boed yn weithwyr proffesiynol, gofalwyr, neu addysgwyr, â gwybodaeth ac offer ymarferol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i ddeall a chefnogi’n well bobl ifanc sy’n hunan-niweidio.