Dulliau sy’n ystyriol o drawma a hunan-niweidio: Darparu ymateb tosturiol
Lowri Wyn Jones
Lowri Wyn Jones yw Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru. Gan weithio ochr yn ochr â thîm ar draws dau sefydliad partner (Adferiad a Mind Cymru), mae’n gyfrifol am reoli’r rhaglen o ddydd i ddydd a’i chyflwyno’n strategol yng Nghymru. Amser i Newid Cymru yw’r ymgyrch gwrth-stigma iechyd meddwl genedlaethol gyntaf a lansiwyd yn 2012 sydd â’r nod o gynyddu agweddau cadarnhaol tuag at iechyd meddwl yng Nghymru yn y gobaith o leihau’r gwahaniaethu uniongyrchol a wynebir gan bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Gan weithio ar draws cymunedau, gweithleoedd a gwasanaethau, mae gwaith Lowri yn pontio polisi, ymchwil a marchnata cymdeithasol. Ers 2015, mae Amser i Newid Cymru wedi gweithio’n agos gyda chyflogwyr ar draws Cymru sy’n cael cymorth i wneud addewid cyhoeddus i fynd i’r afael â gwahaniaethu yn y gweithle, rhywbeth y gwyddom sy’n effeithio ar gynifer o’r gweithlu yng Nghymru. Mae rhai camau cadarnhaol a newid diriaethol wedi’u cyflawni ymhlith y 250+ o gyflogwyr sydd wedi llofnodi’r addewid. Wrth galon ein hymgyrch mae mudiad cymdeithasol pwerus o hyrwyddwyr sy’n rhannu eu profiad o fyw gyda phroblemau iechyd meddwl trwy sgyrsiau ffurfiol ac anffurfiol ar draws gweithleoedd yng Nghymru. Gwyddom fod y sgyrsiau hyn yn ffordd hynod effeithiol o wella dealltwriaeth a newid ymddygiadau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl ac yn eu tro yn lleihau’r stigma. Mae Amser i Newid Cymru yn weithgar wrth gyhoeddi blogiau fideo, blogiau a phodlediadau i daflu goleuni ar brofiadau iechyd meddwl pobl.
Ymunodd Lowri â thîm Amser i Newid Cymru ym mis Tachwedd 2016 ar ôl gweithio cyn hynny fel Rheolwr Rhaglen Ryngwladol gyda British Council Cymru lle bu ei gyrfa yn ymestyn dros gyfnod o 10 mlynedd yn gweithio yn sectorau’r celfyddydau ac addysg. Mae Lowri wedi helpu i siapio’r cynnig Amser i Newid i gyflogwyr yng Nghymru gan weithio’n agos ag adran Lles yn y Gweithle Mind. Mae hi’n angerddol am seicoleg sefydliadol, a chreu cyfleoedd, herio gwahaniaethu a sicrhau cyfiawnder cymdeithasol a newid i’r rhai sydd ei angen fwyaf yn ein cymdeithas.
Yvonne Raybone, MBACP (BA (Anrh), LLM, MEd.). Uwch Ymarferydd Clinigol ar gyfer Straen Trawmatig Gogledd Cymru, Iechyd Meddwl Oedolion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).
Mae Yvonne Raybone yn Gwnselydd Integredig cymwys, sydd â blynyddoedd lawer o brofiad o weithio’n therapiwtig (therapi un i un a therapi grŵp) gydag oedolion â thrawma cymhleth yn dilyn cam-drin a thrais rhywiol yn ystod plentyndod ac fel oedolyn. Mae Yvonne wedi gweithio dros 10 mlynedd cyn hyn fel Cynghorydd Trais Rhywiol Annibynnol yng Nghanolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol Amethyst, Gogledd Cymru, yn cefnogi pobl cyn, yn ystod ac ar ôl y system cyfiawnder troseddol. Ar hyn o bryd, mae Yvonne yn gweithio fel Uwch Ymarferydd Clinigol o fewn tîm Straen Trawmatig Gogledd Cymru (TSNW) Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – rhan o fenter genedlaethol Straen Trawmatig Cymru. Ffocws TSNW yw symud ymlaen yn strategol a datblygu arfer a gofal sy’n seiliedig ar drawma o fewn gwasanaethau iechyd meddwl oedolion BIPBC. Mae hyn yn cynnwys gwella ansawdd, dewis, a mynediad at therapïau trawma ar sail tystiolaeth. Mae pwyslais y gwaith ar yr hyn sydd wedi digwydd i berson yn lle’r hyn sy’n bod ar berson. Mae’n cynnwys cyfraniadau a thystiolaeth sy’n seiliedig ar arfer a dynnwyd o brofiadau bywyd gwasanaethau, pobl a chymunedau Gogledd Cymru ar gyfer deall trawma ac sy’n ystyriol o drawma a beth mae hyn yn ei olygu yn y mannau y mae pobl yn byw, yn gweithio, ac yn cyrchu eu darpariaeth iechyd leol ynddynt.
Mae Dr Katie Brown (BSc (Anrh), DCLINPSY) yn Arweinydd Straen Trawmatig ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (CTM) ac yn Seicolegydd Clinigol.
Mae Katie wedi gweithio yn y gwasanaethau i oedolion drwy gydol ei gyrfa yn y sector annibynnol a’r GIG. Mae’r rhan fwyaf o yrfa Katie wedi cynnwys cyflwyno a datblygu ffyrdd seicolegol, sy’n ystyriol o drawma o weithio o fewn gwasanaethau fforensig. Yn fwy diweddar, mae’n gweithio fel Arweinydd Straen Trawmatig Cymru ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ddatblygu arfer sy’n ystyriol o drawma a darparu llwybrau cymorth effeithlon a symlach i unigolion sydd wedi profi trawma yn yr ardal leol. Mae Katie wedi ymddiddori ers tro mewn cefnogi unigolion, timau a systemau sydd wedi profi trawma. Drwy gydol ei gyrfa bu’n gweithio gydag unigolion â thrawma difrifol a chymhleth, gan hyfforddi ym mhob un o’r prif ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer trawma. Mae hi’n angerddol am hyrwyddo gofal tosturiol wedi’i lywio gan drawma, ysgogi gwella ansawdd, a meithrin newid diwylliant ystyrlon o fewn sefydliadau.