RTSSS: yr hyn rydym yn ei ddysgu am hunanladdiadau a amheuir yng Nghymru 

Dr Rosalind Reilly

Mae Rosalind Reilly yn Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.  Cwblhaodd hyfforddiant meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2005. Ymgymerodd â hyfforddiant meddygol sylfaenol ac arbenigol ym Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr a hyfforddiant iechyd y cyhoedd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.  Bu’n gweithio ar brosiectau amrywiol yn ymwneud ag iechyd mamau a phlant, cadw gwyliadwriaeth ac adolygiadau marwolaethau.  Mae Rosalind wedi bod yn arweinydd iechyd y cyhoedd ar gyfer y Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant (Cymru) ers 2015 ac yn arweinydd ar gyfer Gwyliadwriaeth Amser Real Hunanladdiad Tybiedig (Cymru) ers ei sefydlu yn 2022.