Hunan-niweidio – Athro Ann John
Yr Athro Ann John – Athro Iechyd y Cyhoedd a Seiciatreg | Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe
Mae’r Athro Ann John yn arbenigwr blaenllaw mewn atal hunanladdiad a hunan-niweidio, ac mae ganddi gefndir clinigol mewn iechyd y cyhoedd ac ymarfer cyffredinol. Fel Athro Iechyd y Cyhoedd a Seiciatreg yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar atal hunanladdiad a hunan-niweidio, yn enwedig ymhlith plant a phobl ifanc. Mae hi’n ymroddedig i defnyddio mewnwelediadau sy’n seiliedig ar ddata i ddatblygu strategaethau atal effeithiol a llywio polisi a gweithio gyda phobl â Phrofiad Bywyd i wneud i hyn ddigwydd.
Mae Ann yn Gyfarwyddwr Canolfan Genedlaethol newydd Cymru ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio, ac mae’n gadeirydd Grŵp Cynghori Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio. Mae Ann yn Is-lywydd y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Golygydd Cyswllt Archifau ar gyfer Ymchwil i Hunanladdiad.
Mae ymrwymiad Ann i drosi ymchwil yn bolisi ac arferion sy’n cael effaith wrth wraidd ei gwaith.